Hwylus
Pethau Bychain
Pethau Bychain
Gweddnewid mewn 10 Diwrnod
Mae’r Gwanwyn yn gyfle gwych i blannu Pethau Bychain Hwylus gan adnewyddu patrymau bywyd.
Dros y flwyddyn newydd, mae’n siwr eich bod wedi bwriadu creu newid er gwell yn eich bywyd. Boed i fwyta’n iach, symud fwy, neu bod bach yn llai ‘stressy’. Ond mae’r dyddiau tywyll a thywydd garw yn gallu tywallt dŵr oer ar bethau.
Falle eich bod chi wedi profi bod dad-wneud hen batrymau yn gallu fod yn llawer haws i ddweud nac i wneud.
Ond mae gennym ‘hack’ Hwylus i chi ar y rhaglen Pethau Bychain.
Yn cychwyn ar Ddydd Gwyl Dewi, ymunwch gyda Helen ar y rhaglen yma sy’n cynnig syniadau ac ysbrydoliaeth i hybu a hwyluso eich bywyd. Wrth ymaelodi ar raglen Pethau Bychain Hwylus, dros pythefnos cewch fynediad at:
- 10 e-bost dyddiol i ysgogi, hybu a hwyluso newid
- 10 fideo Pethau Bychain Hwylus yn rhannu syniadau i greu newid ffres
- Arwainlyfr i weithio ar eich elfennau craidd a dylunio patrymau newydd
- Mynediad at Gymuned Pethau Bychain Hwylus i rannu profiadau
Y cyfan sydd angen i fod yn rhan o’r rhaglen trawsnewidiol yma
yw meddwl agored ac agwedd bositif.
Byddwn yn cychwyn ar y 1af o Fawrth 2019 ond gallwch ymuno wedi hynny, bydd e’n haws dal fyny!
Nodau Pendant
Meddwl Cryf
Patrymau Ffres
Gweddnewid mewn 10 Diwrnod
Rwy’n gweithio fel ymgynghorydd a hwylusudd i ddarganfod a datblygu potensial unigolion. Fues i’n gweithio dros 10 mlynedd yn y sector Corfforaethol ar ddatblygu ffyrdd amgen o weithio i wella perfformiad.
Mae gen i brofiad ym maes datblygu personol, gan ddatblygu model ‘coaching’ fy hun gyda’r Ysgol Fusnes ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant. Mae fy ymarfer yn deillio o seicoleg bositif ac NLP (neuro-linguistic programming) sy’n edrych ar ffyrdd effeithiol i gyfathrebu ac adnabod patrymau meddwl.
Ymunwch a fi dros y rhaglen yma i ddarganfod yr hyn allwch chi ei wneud wrth feithrin patrymau Hwylus yn eich bywyd chi.